Cyflenwadau Dŵr Preifat
- Oes gennych chi eiddo heb gyflenwad dŵr mains ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf?
- Oes gennych chi gyflenwad dŵr mains yn barod yr hoffech ychwanegu ato trwy ddefnyddio ffynonellau eraill megis dŵr glaw neu ddŵr llwyd?
- Oes gennych chi gyflenwad dŵr preifat ac ydych chi’n poeni am ei ansawdd a’r hyn y gallwch wneud am y peth?
Wrth edrych am gyflenwadau dŵr eraill, y prif ystyriaethau yw maint y cyflenwad ac ansawdd y dŵr. Tra’i bod yn dechnegol bosibl i drin bron iawn unrhyw ddŵr i safon dŵr yfed, nid yw’r prosesau wastad yn cydymffurfio â gofynion amgylcheddol. Gall Gwasanaethau Dŵr a Charthion Cymru ymweld â’ch safle i asesu eich defnydd o ddŵr, ffynonellau dŵr posibl ac ansawdd unrhyw ddŵr newydd. Gallwn gynghori ar systemau casglu, storio a thrin dŵr. Os oes gennych gyflenwad dŵr preifat yn barod, neu’n ystyried prynu eiddo sydd eisoes â chyflenwad dŵr preifat gallwn eich cynghori ar ddiogelwch a chynhaliaeth.
Mae Judith yn awdurdod ar gyflenwadau bychain o ddŵr yn y DU ac mae wedi ysgrifennu "The Water Book", sef canllaw ar ddod o hyd, symud, storio a glanhau dŵr. Canllaw ymarferol yw hwn i’r materion sy’n ymwneud â chyflenwadau dŵr, gosod cyflenwadau newydd ayb ac mae ar gael gan yr awdur trwy’r wefan. Mwy o fanylion .